BALCHDER GOGLEDD CYMRU
18/7/26
LLE: Caergybi town hall, Ucheldre, The Branch, Llyfrgell Caergybi Library
PRYD: 12:00 - 19: 00 & 19:00 - 00:00
Ms Katie Gill
Mae Ms Katie Gill yn ddigrifwr, cyflwynwraig a chyfansoddwraig o Ogledd Cymru. Mae ei ffraethineb cyflym a'i harddull gynnes a gafaelgar wedi ei gwneud yn ffefryn ar gylchdaith gomedi Cymru. Mae Katie yn perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg, ac yn dod ag egni heintus i bob llwyfan y mae'n camu arno. Rydym yn falch iawn o'i chroesawu fel compère Balchder Gogledd Cymru 2026!
https://www.instagram.com/mskatiegill
Mae Justin Drag yn frenin drag Cymreig ac yn compère profiadol o sîn cabaret Caerdydd. Mae o’n adnabyddus am ei egni a'i berfformiadau deinamig. Mae Justin yn dod â charisma, rhyngweithio torfol, a phresenoldeb llwyfan mawr i bob digwyddiad.
https://www.instagram.com/justin.drag
Mae Liam J Edwards yn ganwr-gyfansoddwr Cymreig sy'n adnabyddus am ei lais pwerus a'i berfformiadau teimladwy. Yn dalent gynyddol ar y sîn gerddoriaeth Gymreig, mae'n cyfuno cerddoriaeth Saesneg a Chymraeg i greu pop emosiynol a chyfoes.
https://www.instagram.com/liamk.edwardsmusic
Mae The Royal Serenity yn artist drag a chrëwr cabaret o Ogledd Cymru sy'n dod â disgleirdeb, hudoliaeth ac anhrefn theatrig i'r llwyfan. Efo llais pwerus a sioeau byw bythgofiadwy sy'n cynnwys drag, dawns a bwrlesg, maent wrth galon y sîn cabaret Gymreig.
https://www.instagram.com/theroyalserenity
Mae Opal Rose yn berfformiwr drag o Ogledd Cymru sy'n cynnig egni, hudoliaeth a digon a charisma. Yn seren gynyddol y sîn cabaret a dathliadau Balchder lleol, mae hi rŵan yn ffefryn cadarn gyda chynulleidfaoedd ledled y DU.
https://www.instagram.com/itsopalrose
Mae The Heather Boa yn ddylunydd ffasiwn, perfformiwr drag ac artist lipsync o Ogledd Cymru sy'n adnabyddus am ffasiwn feiddgar, perfformiadau egnïol a phresenoldeb llwyfan trawiadol. Gan gyfuno ffasiwn a chelf berfformio, mae hi'n dod â hudoliaeth, carisma a chreadigrwydd i bob digwyddiad.
https://www.instagram.com/theheatherboa
The Iris Effect

"Mae’r digwyddiadau Balchder yn ystod y dydd yn rhad ac am ddim ac yn addas i deuluoedd, gyda gweithgareddau, gweithdai, a stondinau i bob oedran eu mwynhau. Gyda'r nos, rydyn ni'n symud i ddigwyddiad oedolion yn unig, ac yn helpu i gefnogi a thalu'r artistiaid sy'n gwneud Balchder yn bosibl."

NODDWYR 2023

















